Tocyn Tymor
Bargen go iawn, gan gynnwys yr holl gystadlaethau a chyngherddau o Ddydd Mercher trwy Ddydd Sadwrn.| Yr Eisteddfod |
|
|
|
|
"Yr unig beth rhyfeddol am wyrthiau, hyd yn oed y rhai lleiaf, yw eu bod yn digwydd o gwbl" Dylan Thomas, Yn gymharol fuan un bore Mae'r gwyrthiau a soniodd Dylan Thomas amdanynt wedi bod yn rhai rheolaidd yn Llangollen bob haf ers 1947. Mae'r dref brydferth Gymreig wedi llwyfannu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers 60 mlynedd. Bob mis Gorffennaf, daw rhwng 2000 a 5000 o gystadleuwyr ynghyd a chymaint â 50,000 o ymwelwyr sy'n eiddgar i wylio'r olygfa ddisglair ac i brofi swyn Llangollen. Am un wythnos o fis Gorffennaf, yn flynyddol, mae'r holl fyd yn glanio yn y dref fach Gymreig. Yn ystod y dydd, mae cerddorion a dawnswyr rhyngwladol yn cystadlu mewn 20 o gystadlaethau a rhagor, a rheini o'r safon uchaf posib. Gyda'r nos mae'r cystadleuwyr gorau a mwyaf lliwgar yn rhannu'r llwyfan gydag artistiaid proffesiynol yn y cyngherddau enwog, llawer ohonynt wedi cychwyn eu gyrfaoedd yn Llangollen. Mae Placido Domingo wedi cydnabod mai ei brofiad proffesiynol cyntaf ym Mhrydain oedd yn Eisteddfod Llangollen ym 1968, ac ym 1955 fe gystadlodd y diweddar Luciano Pavarotti ynghyd â'i dad a gwyr eraill o'i dref enedigol, Modena, yng nghystadleuaeth y corau meibion. Roedd y côr yn fuddugol yn yr adran yma, ac fe ddychwelodd Pavarotti i Langollen ar gyfer cyngerdd ysblennydd ym 1995. Mae Kiri Te Kanawa, Lesley Garrett, Bryn Terfel, Dennis O'Neil, James Galway a Montserrat Caballe hefyd ymysg y sêr cerddorol sydd wedi perfformio yng Nghyngerdd Gala Nos Sul yr Eisteddfod. |





